Matthew 5

Y Bregeth ar y Mynydd

(5:1—7:29)

Y Bendithion

(Luc 6:20-23)

1Pan welodd Iesu yr holl dyrfaoedd, aeth i fyny i ben y mynydd. Pan eisteddodd i lawr,
5:1 eisteddodd i lawr: Roedd athrawon Iddewig yn eistedd pan oedden nhw'n dysgu.
daeth ei ddilynwyr ato,
2a dechreuodd eu dysgu, a dweud:

3“Mae'r rhai sy'n teimlo'n dlawd ac annigonol wedi eu bendithio'n fawr,
oherwydd mae'r Un nefol yn teyrnasu yn eu bywydau.
4Mae'r rhai sy'n galaru wedi eu bendithio'n fawr,
oherwydd byddan nhw'n cael eu cysuro.
5Mae'r rhai addfwyn sy'n cael eu gorthrymu wedi eu bendithio'n fawr,
oherwydd byddan nhw'n etifeddu'r ddaear.
6Mae'r rhai sy'n llwgu a sychedu am gyfiawnder wedi eu bendithio'n fawr,
oherwydd byddan nhw'n cael eu bodloni'n llwyr.
7Mae'r rhai sy'n dangos trugaredd wedi eu bendithio'n fawr,
oherwydd byddan nhw'n cael profi trugaredd eu hunain.
8Mae'r rhai sydd â chalon bur wedi eu bendithio'n fawr,
oherwydd byddan nhw'n cael gweld Duw.
9Mae'r rhai sy'n hyrwyddo heddwch wedi eu bendithio'n fawr,
oherwydd byddan nhw'n cael eu galw'n blant Duw.
10Mae'r rhai sy'n dioddef erledigaeth am eu bod yn byw'n gyfiawn wedi eu bendithio'n fawr,
oherwydd mae'r Un nefol yn teyrnasu yn eu bywydau.

11“Pan fydd pobl yn eich sarhau chi, a'ch erlid, ac yn dweud pethau drwg amdanoch chi am eich bod yn perthyn i mi, dych chi wedi'ch bendithio'n fawr! 12Byddwch yn llawen! Mwynhewch er gwaetha'r cwbl, achos mae gan Dduw yn y nefoedd wobr fawr i chi. Cofiwch fod y proffwydi oedd yn byw ers talwm wedi cael eu herlid yn union yr un fath! b

Halen a golau

(Marc 9:50; Luc 14:34,35)

13“Chi ydy halen y ddaear. Ond pan mae'r halen wedi colli ei flas pa obaith sydd i'w wneud yn hallt eto? Dydy e'n dda i ddim ond i'w daflu i ffwrdd a'i sathru dan draed.

14“Chi ydy'r golau sydd yn y byd. Mae'n amhosib cuddio dinas sydd wedi ei hadeiladu ar ben bryn. 15A does neb yn goleuo lamp i'w gosod o dan fowlen! Na, dych chi'n gosod lamp ar fwrdd er mwyn iddi roi golau i bawb yn y tŷ. 16Dyna sut dylai'ch golau chi ddisgleirio, er mwyn i bobl foli'ch Tad yn y nefoedd wrth weld y pethau da dych chi'n eu gwneud.

Ystyr y Gyfraith

17“Peidiwch meddwl fy mod i wedi dod i gael gwared â Chyfraith Moses ac ysgrifau'r Proffwydi.
5:17 Cyfraith Moses a'r Proffwydi: Yr ysgrifau sanctaidd Iddewig. Yr Hen Destament yn y Beibl.
Dim o gwbl! Dw i wedi dod i ddangos beth maen nhw'n ei olygu.
18Credwch chi fi, fydd dim un llythyren na manylyn lleia o'r Gyfraith yn cael ei ddileu nes bydd y nefoedd a'r ddaear yn diflannu. Rhaid i'r cwbl ddigwydd gyntaf. 19Bydd pwy bynnag sy'n torri'r gorchymyn lleia, ac yn dysgu pobl eraill i wneud yr un peth, yn cael ei ystyried y lleia yn y deyrnas nefol. Ond bydd pwy bynnag sy'n byw yn ufudd i'r gorchmynion ac yn dysgu eraill i wneud hynny, yn cael ei ystyried y mwya yn y deyrnas nefol. 20Dw i'n dweud hyn – os fyddwch chi ddim yn byw'n fwy cyfiawn na'r Phariseaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith, fyddwch chi byth yn un o'r rhai mae'r Un nefol yn teyrnasu yn eu bywydau.

Llofruddiaeth

(Luc 12:57-59)

21“Dych chi wedi clywed beth oedd yn cael ei ddweud wrth bobl ers talwm: ‘Paid llofruddio’ d – (ac y bydd pawb sy'n llofruddio rhywun yn euog ac yn cael eu barnu). 22Ond dw i'n dweud wrthoch chi fod y sawl sy'n gwylltio gyda rhywun arall yn euog ac yn cael ei farnu. Os ydy rhywun yn sarhau ei gyfaill drwy ei alw'n idiot, mae'n atebol i'r Sanhedrin. Ond os bydd rhywun yn dweud ‘y diawl dwl’ wrth rywun arall, mae mewn perygl o losgi yn nhân uffern.

23“Felly, os wyt ti wrth yr allor yn y deml yn addoli Duw, ac yn cofio yno fod gan rhywun gŵyn yn dy erbyn, 24gad dy offrwm yno. Dos i wneud pethau'n iawn gyda nhw'n gyntaf; cei di gyflwyno dy offrwm i Dduw wedyn.

25“Os bydd rhywun yn dy gyhuddo o rywbeth ac yn mynd â ti i'r llys, setla'r mater ar unwaith cyn cyrraedd y llys. Ydy'n well gen ti iddo fynd â ti o flaen y barnwr, ac i'r barnwr orchymyn i swyddog dy roi yn y carchar? 26Cred di fi, chei di ddim dy ryddhau nes byddi wedi talu pob ceiniog.

Godineb

27“Dych chi wedi clywed beth oedd yn cael ei ddweud, ‘Paid godinebu’ e 28Ond dw i'n dweud wrthoch chi fod unrhyw ddyn sy'n llygadu gwraig a'i feddwl ar ryw eisoes wedi cyflawni godineb gyda hi. 29Os ydy dy lygad orau yn gwneud i ti bechu, tynna hi allan a'i thaflu i ffwrdd. Mae'n well i ti golli rhan fach o dy gorff nag i dy gorff cyfan gael ei daflu i uffern. 30Ac os ydy dy law gryfaf yn gwneud i ti bechu, torra hi i ffwrdd a'i thaflu ymaith. Mae'n well i ti golli rhan o dy gorff nag i dy gorff cyfan gael ei daflu i uffern.

Ysgariad

(Mathew 19:9; Marc 10:11,12; Luc 16:18)

31“Mae wedi cael ei ddweud, ‘Rhaid i bwy bynnag sy'n ysgaru ei wraig roi tystysgrif ysgariad iddi.’ f 32Ond dw i'n dweud wrthoch chi fod dyn sy'n ysgaru ei wraig am unrhyw reswm ond ei bod hi wedi bod yn anffyddlon iddo, yn gwneud iddi hi odinebu. Hefyd mae dyn sy'n priodi gwraig sydd wedi cael ysgariad yn godinebu.

Llwon

33“Dych chi hefyd wedi clywed i hyn gael ei ddweud wrth bobl ers talwm: ‘Paid gwneud llw, ac wedyn ei dorri. Rhaid cadw pob llw wyt ti wedi ei wneud i'r Arglwydd.’ g 34Ond dw i'n dweud wrthoch chi, Peidiwch tyngu llw o gwbl: ddim i'r nefoedd, am mai dyna orsedd Duw; 35nac i'r ddaear, y stôl iddo orffwys ei draed arni; nac i Jerwsalem, am mai hi ydy dinas Duw, y Brenin Mawr. 36Peidiwch tyngu llw hyd yn oed i'ch pen eich hun, oherwydd allwch chi ddim troi un blewyn yn ddu neu'n wyn. 37Yn lle hynny, dwedwch y gwir bob amser – dylai dweud ‘Ie’ olygu ‘Ie’, a dweud ‘Na’ olygu ‘Na’. Y diafol sy'n gwneud i chi fod eisiau dweud mwy na hynny.

Llygad am lygad

(Luc 6:29,30)

38“Dych chi wedi clywed fod hyn yn cael ei ddweud, ‘Llygad am lygad, a dant am ddant.’ h 39Ond dw i'n dweud wrthoch chi: Peidiwch ceisio talu'n ôl. Os ydy rhywun yn rhoi clatsien i ti ar dy foch dde, cynnig y foch arall iddo. 40Ac os ydy rhywun am dy siwio a chymryd dy grys, rho dy gôt iddo hefyd. 41Os ydy milwr Rhufeinig yn dy orfodi i gario ei bac am un filltir, dos di ddwy. 42Rho i bwy bynnag sy'n gofyn i ti am rywbeth, a paid gwrthod y sawl sydd eisiau benthyg rhywbeth gen ti.

Cariad at elynion

(Luc 6:27,28,32-36)

43“Dych chi wedi clywed i hyn gael ei ddweud: ‘Rwyt i garu dy gymydog’ i – (ac ‘i gasáu dy elyn’). 44Ond dw i'n dweud wrthoch chi: Carwch eich gelynion a gweddïwch dros y rhai sy'n eich erlid chi! 45Wedyn byddwch yn dangos eich bod yn blant i'ch Tad yn y nefoedd, am mai dyna'r math o beth mae e'n ei wneud – mae'n gwneud i'r haul dywynnu ar y drwg a'r da, ac yn rhoi glaw i'r rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn a'r rhai sydd ddim. 46Pam dylech chi gael gwobr am garu'r bobl hynny sy'n eich caru chi? Onid ydy hyd yn oed y rhai sy'n casglu trethi i Rufain
5:46 rhai sy'n casglu trethi i Rufain: Roedd y bobl yma yn cael eu hystyried yn fradwyr i'w gwlad.
yn gwneud cymaint â hynny?
47Ac os mai dim ond eich teip chi o bobl dych chi'n eu cyfarch, beth dych chi'n ei wneud sy'n wahanol? Mae hyd yn oed y paganiaid yn gwneud hynny! 48Ond rhaid i chi fod yn berffaith, yn union fel mae'ch Tad nefol yn berffaith.

Copyright information for CYM